Croeso
Rydym yn Ganolfan gyfeirio Disgyblion ar gyfer sir Gwynedd, sy’n darparu addysg ar gyfer pobl ifanc, nad ydynt yn gallu mynychu ysgol y brif ffrwd. Rydym yn gweithredu ar draws ddwy safle, sef; Camu i’r Copa Nantlle a Camu i’r Copa Felinwnda sy’n arbenigo mewn cefnogi anghenion disgyblion unigol yn ymwneud ag ymddygiad ac iechyd meddwl.
Rydym yn cydnabod bod ysgolion prif ffrwd yn darparu’r addysg orau i blant a phobl ifanc yn Ngwynedd. Fodd bynnag, mae rhai plant a phobl ifanc yn wynebu anawsterau gwirioneddol yn eu bywydau sydd wedi creu rhwystrau sylweddol i ddysgu. Ein huchelgais yw ail-adeiladu hunanhyder a hunan-barch, er mwyn i blant a phobl ifanc ail-ymgysylltu’n llwyddiannus â’u dysgu. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu pontio llwyddiannus i leoliadau ysgol brif ffrwd. Rydym yn targedu cymorth yn arbennig yng nghyfnod allweddol 4 at drosglwyddo’n llwyddiannus i addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant.
Yn olaf, rydym yn falch o’n hagwedd gyfeillgar a chroesawgar at yr holl blant, pobl ifanc a theuluoedd. Beth bynnag amgylchiadau sydd yn ei wynebu rydym yn anelu iddynt gyrraedd ei Copa.

Neges gan y Pennaeth.
Fel Pennaeth Camu i’r Copa, mae’n bleser gennyf eich croesawu i’n Canolfan Cyfeirio Disgyblion, lle mae pob person ifanc yn cael eu rhoi wrth galon eu taith ddysgu eu hunain. Rydym yn deall y heriau unigryw sydd gan ddisgyblion sydd wedi gwynebu eithriad a thrawma, ac rydym yn ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel, gofalgar, ac o safon uchel lle mae pob dysgwr yn teimlo’n werthfawr, yn cael eu parchu, ac yn cael cefnogaeth i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae ein gwasanaeth yn seiliedig ar sylfaen o berthyn, parchu a gobaith. Rydym yn cydnabod pob disgybl fel unigolyn gyda’u llais, eu cryfderau, a’u profiadau eu hunain. Trwy gydweithio gyda theuluoedd, ysgolion, a’r gymuned ehangach, rydym yn ceisio creu teimlad cryf o berthyn a grymuso, gan alluogi pob dysgwr i adeiladu hyder a sgiliau ar gyfer eu dyfodol.
Rydym yn ymroddedig i ddatblygu cwricwlwm a fframweithiau asesu wedi’u teilwra i anghenion ein disgyblion, gan sicrhau cynnydd a chanlyniadau cadarnhaol yn eu haddysg ac yn eu bywydau.
Diolch am ymddiried ynom i gefnogi’ch disgyblion ac am gydweithio gyda ni ar y daith bwysig hon. Gyda’n gilydd, gallwn helpu pobl ifanc i oresgyn rhwystrau a chamu’n hyderus tuag at lwyddiant.
Deio Brunelli
Pennaeth, Camu i’r Copa

Newyddion / Hysbys
