MAE GAN BAWB (DISGYBLION A STAFF) YR HAWL I: 

  1. Teimlo'n ddiogel 
  2. Cael eu parchu a'u gwerthfawrogi 
  3. Dysgu/addysgu'n effeithiol 

Mae Camu I’r Copa wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae ymddygiad gadarnhaol wrth wraidd dysgu effeithiol. Disgwylir i bawb gynnal  safonau uchel o ran ei ymddygiad personol, i dderbyn cyfrifoldeb am eu hymddygiad ac annog eraill i wneud yr un peth. Mae hyn yn cynnwys Asesiadau Risg cynhwysfawr i sicrhau diogelwch disgyblion a staff. Rydym yn defnyddio Dull Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar y Person yn ganolog i lywio ein cynllunio i ddiwallu anghenion y disgyblion yn ein gofal. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau ynghylch ACEs ac mae'n defnyddio'r Model Adfer Trawma.  

Mae pwysigrwydd perthnasoedd cryf a chadarnhaol rhwng holl aelodau'r ganolfan (disgyblion a staff) a'r gymuned ehangach yn cael ei gydnabod fel elfen hanfodol wrth ddatblygu'r gefnogaeth gywir i'n pobl ifanc wrth reoli eu hymddygiad eu hunain yn ogystal â datblygu ethos cynhwysol yn ein lleoliad.  

Nod y CCD yw: 

 

  • Cynnal amgylchedd ble mae pawb yn teimlo yn ddiogel. 
  • Adeiladu hyder a hunan-barch. 
  • Creu diwylliant o ymddygiad gadarnhaol: ar gyfer dysgu, ac  ar gyfer cymuned ehangach 
  • Sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei drin yn deg, yn dangos parch ac  hyrwyddo perthnasoedd da. 
  • Gwrthod rhoi sylw i ddysgwyr am ymddygiad gwael 
  • Helpu dysgwyr i gymryd rheolaeth dros eu hymddygiad a bod yn gyfrifol am ganlyniadau hynny. 
  • Adeiladu cymuned sydd a werthoedd o garedigrwydd, gofal, hiwmor, tymer da, ac empathi i eraill. 
  • Hyrwyddo cydlyniant cymunedol trwy wella perthnasoedd. 
  • Sicrhau bod ymddygiad cadarnhaol yn ddisgwyliad i bawb. 

Disgwyliadau  

Sut bydd staff yn ymateb
  1. Cyson 
  2. Ystyrlon 
  3. Calm
3 rheol:
  1. Bod yn saff 
  2. Bod yn barchus 
  3. Bod yn barod 
Staff trwy’r dydd pob dydd
  1. Positif 
  2. Prydlon 
  3. Parod 
Uwch Arweinwyr:
  1. Cyfrifol 
  2. Presennol 
  3. Model Rôl 
Cydnabod ymddygiad gadarnhaol 
  1. Canmoliaeth 
  2. Anogaeth 
  3. Gwobrau Cadarnhaol 
Support beyond the classroom: 
  1. Amser a Gofodi ei hunain 
  2. Cwricwlwm Amgen 
  3. Gweithiwr Allweddol 

Mae'r rhain wedi cael eu trafod gyda myfyrwyr ac yn cael eu hadolygu'n flynyddol.  

Ein nod yw cynnal parhad mewn arferion a pharatoi ein disgyblion pan fydd newid athro wedi'i gynllunio neu os oes  newid yn yr amserlen.