Rôl Allgymorth / Ymestyn Allan 

Mae’r gwasanaeth Allgymorth / Ymestyn Allan yn cefnogi disgyblion mewn ysgolion cynradd ac uwchradd prif ffrwd ar draws y sir ac yn gweithio ar bedair haen o wasanaeth. 

  1. Ymyrraeth gynnar – Ymgynghori, cynllunio a chymorth.
  2. Rheoli achosion.
  3. Mewnbwn mwy arbenigol/ penodol.
  4. Trosglwyddo i Lwybr B/C neu ail integreiddio i ysgolion prif ffrwd.

Mae’r tîm yn gweithio’n gydweithredol gydag ysgolion, teuluoedd, asiantaethau allanol, a gwasanaethau o fewn yr Awdurdod er mwyn adnabod a lleihau rhwystrau i addysg a llesiant dysgwyr. 

Prif nod y gwasanaeth allgymorth yw cyfarch anghenion ymddygiadol, emosiynol, a chymdeithasol yr unigolion, gan sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad teg a chynhwysol at gyfleoedd dysgu.

 

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig? 

  • Darparu cyngor, arweiniad, a chymorth allgymorth i staff ysgolion er mwyn cefnogi gwell ymgysylltiad ac ymddygiad disgyblion. 
  • Gweithio mewn partneriaeth â thimau amlasiantaethol, gan gynnwys addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, a sefydliadau cymunedol, er mwyn cydlynu cymorth effeithiol. 
  • Cyflwyno ymyriadau neu sesiynau wedi’u teilwra i anghenion unigolion, a chynnig hyfforddiant a strategaethau priodol er mwyn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol. 
  • Cynnig lleoliad mewn canolfan arbenigol os yw anghenion yr unigolyn yn cwrdd â’r meini prawf mynediad. 
  • Cefnogi pontio ac ailintegreiddio disgyblion yn ôl i ysgolion prif ffrwd.